logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sancteiddrwydd im yw’r Oen di-nam

Sancteiddrwydd im yw’r Oen di-nam
‘Nghyfiawnder, a’m doethineb,
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i dragwyddoldeb.

Ces weld mai Ef yw ‘Mrenin da
Fy Mhroffwyd a’m Hoffeiriad,
Fy Nerth a’m Trysor mawr a’m Tŵr,
F’Eiriolwr fry a’m Ceidwad.

Ar ochor f’enaid tlawd y bydd
Ar fore dydd marwolaeth;
Yn ŵyneb angau mi wnaf ble,
Gan weiddi “Iechydwriaeth.”

O fewn i’r wlad tu draw i’r bedd
Caf weled gwedd ei ŵyneb:
Ac yn ei fynwes llechu caf
Hyd eithaf tragwyddoldeb.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint