logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sanctaidd yw ein Duw

Safwn a chodwn ein cân,
Cans llawenydd ein Duw yw ein nerth,
Plygwn lawr ac addolwn nawr,
Mor fawr, mor anferth yw Ef.

Felly, canwn fel un,

Sanctaidd yw ein Duw, Hollalluog,
Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant,
Sanctaidd yw ein Duw, Hollalluog,
Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant,
Y ddae’r sy’n llawn o’i ogoniant.

Felly, canwn fel un,
Canwn i’r Un.

Fe gwyd y gân ymhob lle,
Dyma’r anthem sy’n dwyn clod i Dduw.

Holy Is The Lord: Chris Tomlin & Louie Giglio, Cyfieithiad Awdurdodedig: Rhys Llwyd
Copyright © and in this translation 2003 worshiptogether.com Songs/sixsteps Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com

PowerPoint