logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog!

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog,
gyda gwawr y bore dyrchafwn fawl i ti;
sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog,
Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni.

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; nef waredigion
fwriant eu coronau yn wylaidd wrth dy droed;
plygu mae seraffiaid mewn addoliad ffyddlon
o flaen eu Crëwr sydd yr un erioed.

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; cwmwl a’th gylchyna,
gweled dy ogoniant ni all anianol un;
unig sanctaidd ydwyt, dwyfol bur Jehofa,
perffaith mewn gallu, cariad wyt dy hun.

Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog,
datgan nef a daear eu mawl i’th enw di;
sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog,
Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni.

REGINALD HEBER, 1783-1826 cyf. DYFED, 1850-1923

(Caneuon Ffydd 42; Grym Mawl 2: 50)

PowerPoint

PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015