logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Saif brenhiniaeth fawr yr Iesu

Saif brenhiniaeth fawr yr Iesu
a’i gorseddfa’n fythol lân,
saif ei heddwch yn dragywydd,
saif ei chysur byth a’i chân;
hedd, maddeuant, meddyginiaeth,
iachawdwriaeth ynddi a gaed;
gras sydd drwyddi yn teyrnasu,
deddf yn gwenu yn y gwaed.

Saif heb siglo yn dragwyddol
eiriau yr anfeidrol Fod,
saif ei gyngor a’i gyfamod
pan ddatodo rhwymau’r rhod;
teyrnas ydyw na ddiflanna,
rhodia’i deiliaid oll yn rhydd,
a phan syrth gogoniant anian
harddwch hon yn fwyfwy fydd.

RICHARD JONES, 1772-1833

(Caneuon Ffydd 255; Llawlyfr Moliant Newydd 566)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015