logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwyt ti’n gryfach

Cariad dwyfol, er ein mwyn
hoeliwyd ar gywilydd croes.
Dygaist ein gwarth, a’n pechod ni;
Mewn buddugoliaeth codaist fry.

Drwy’r ystorm a thrwy y tân
Gras di-drai, mor ffyddlon yw;
Mae gwirionedd a’m rhyddha;
Ynof Iesu Grist sy’n byw.

Rwyt ti’n gryfach, rwyt ti’n gryfach,
Concrwyd pechod, fe’m gwaredaist,
Ysgrifennwyd, Crist gyfodwyd!
Iesu, Ti yw Arglwydd pawb.

Alffa ac Omega wyt,
’Ngobaith a’m hamddiffyn byth;
Ti a’n ceisiaist ni a’n cael
Trwy dalu’r cyfan ar y groes.
Dyrchafwn fry Dy enw sanctaidd,
Dy enw sanctaidd, Dy enw sanctaidd.

Steve McEwan, Danyel Morgan, Robert Randolph: Stronger
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M. Job
© Hillsong

PowerPoint