logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwyt ti’n brydferth iawn

Rwyt ti’n brydferth iawn
tu hwnt i eiriau,
Tu draw i ddeall dyn,
Godidog wyt, Pwy all d’amgyffred?
O, Arglwydd, ’does ond ti dy hun.
Pwy a ddysg dy ryfedd ddoethineb?
Pwy all blymio dy fawr gariad di?
Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau,
Frenin Mawr, ar d’orsedd fry.

Ac yn syn, yn syn y safaf fi.
Yn syn, yn syn rhyfeddaf fi.
Sanctaidd Un sy’n haeddu clod a bri,
Mewn ofn fe’th barchaf di.

Mark Altrogge:You are beautiful, cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd H Pritchard
Hawlfraint © People of Destiny/Thankyou Music 1986.
Gwein. Gan Copycare

(Grym Mawl 1: 189)

PowerPoint