logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwyt fel y graig yn sefyll byth

‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth,
Ffyddlon wyt ti;
‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach
Na phawb a phopeth sy’.
Rymus un, yn ofni dim,
Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw;
Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di,
Er mwyn i ni gael byw.

Wrth droi fy wyneb atat Ti
O! Grist, fy ngweddi clyw!
Drwy dy gariad di, sancteiddia fi,
Gwna fi’n fwy fel Ti bob dydd,
Gwna fi’n fwy fel Ti bob dydd.

Addfwyn wyt, mor dyner,
Llawn cariad hael;
Ni adewi’r gwangalonnus,
Gen’ ti mae nerth i’w gael.
Sanctaidd a pherffaith,
Sefi dros y gwir a dal dy dir;
Ond rwyt ti’n maddau i bechadur,
’Ti’n hoff o drugarhau.

Tommy Walker: Unshakable, Immovable, cyfieithiad awdurdodedig: Casi Jones
© Doulos Publishing/ Maranatha! Music.
Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 139)

PowerPoint