logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da,

‘Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da,
o bobman atat ti,
ym merw blin y byd a’i bla
dy wedd sy’n hedd i mi;
ni chefais, naddo, mewn un man
un balm i’m calon drist
nac enw swyna f’enaid gwan
ond enw Iesu Grist.

‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr
ym merw mawr y byd;
cyfnewid mae meddyliau gŵr,
tydi sy’r un o hyd;
dan bwysau cynyrfiadau’r oes
fe sudda f’egwan ffydd,
ond yng nghadernid Crist a’i groes
fy iachawdwriaeth sydd.

J. TYWI JONES, 1870-1948

(Caneuon Ffydd 369)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015