logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n ofni f’nerth yn ddim

Rwy’n ofni f’nerth yn ddim
Pan elwy’i rym y don:
Mae terfysg yma cyn ei ddod,
A syndod dan fy mron:
Mae ofnau o bob rhyw,
Oll fel y dilyw ‘nghyd,
Yn bygwth y ca’i ‘nhorri i lawr,
Pan ddêl eu hawr ryw bryd.

A minnau sydd am ffoi,
Neu ynteu droi yn ôl,
Yn methu credu saif i’r lan
Un truan, gwan, a ffôl;
Ac eto’r wyf o hyd
Yn symud peth ymlaen:
Nid fi yw’r cyntaf, eiddil ŵr,
Goncwerodd ddŵr a thân.

‘Rwyf yn terfynu ‘nghred,
‘N ôl pwyso oll ynghyd,
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
Ond Duw sy’r un o hyd;
Ar ei ffyddlondeb Ef,
Sy’n noddfa gref i’r gwan,
Mi gredaf dof, ‘mhen gronyn bach,
O’r tonnau’n iach i’r lan.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 17)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 9, 2015