logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod

‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod
bydd pob cyfandir is y rhod
yn eiddo Iesu mawr;
a holl ynysoedd maith y môr
yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr
dros ŵyneb daear lawr.

Mae teg oleuni blaen y wawr
o wlad i wlad yn dweud yn awr
fod bore ddydd gerllaw;
mae pen y bryniau’n llawenhau
wrth weld yr haul yn agosáu
a’r nos yn cilio draw.

WATCYN WYN, 1844-1905

(Caneuon Ffydd 257)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015