logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n gorwedd dan fy mhwn

Rwy’n gorwedd dan fy mhwn,
Yn isel wrth dy draed,
Yn adde’ ‘mod yn waelach dyn
Nag eto un a gaed;
Rhyw ddyfnder sy’n fy nghlwy’
Mwy nag a ddeall dyn,
Ac nid oes yn f’adnabod i
Neb on Tydi dy Hun.

O! boed maddeuant rhad,
Yn hyfryd waed yr Oen,
Yn destun moliant ym mhob man.
I mi sydd dan fy mhoen;
Yr anthem faith ei hyd
Fo i gyd am Galfari;
A’r Iachawdwriaeth fawr ei dawn,
Roed un prynhawn i ni.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 19)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 9, 2015