logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n dy garu er na’th welais

(Perffaith gariad)

Rwy’n dy garu er na’th welais,
Mae dy gariad fel y tân;
Ni all nwydau cryf fy natur
Sefyll mymryn bach o’th flaen;
Fflam angerddol
Rywbryd ddifa’r sorod yw.

Pell uwch geiriau, pell uwch deall,
Pell uwch rheswm gorau’r byd,
Yw cyrhaeddiad perffaith gariad,
Pan ennyno yn fy mryd:
Nid oes tebyg
Gras o fewn y nef ei hun.

Yno caf fi ddweud yr hanes –
P’odd y dringodd eiddil gwan,
Drwy afonydd, a thros greigiau
Dyrys anial serth i’r lan;
Iesu’i hunan
Gaiff y clod drwy eitha’r nef.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 467)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 26, 2015