logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n dod yn nes

Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i glywed y gân yn Saesneg.
Rwy’n dod yn nes nag y bûm i erioed,
Er gwaethaf fy methiant, mae croeso i mi;
Edrychaf i’th lygaid ac mae dy gariad mor glir.

Yn nes ac yn nes yr wyt ti’n fy ngwadd,
A’th gariad o’m hamgylch, mae ’nghalon yn rhydd.
Ti’n symud fy ofn ac yn fy ngwneud i yn fyw.

Dad, Rwy’n eiddo i Ti,
Fy mhechod a’m gwarth nawr wrth y groes – rwyf yn eu rhoi.

Rwyf yn dod, dod nawr i’r lle dylwn fod,
Adref i’th gwmni, i mewn i’th gôl,
Dad atat Ti rwy’n dod,
Yn tywallt fy moliant a’m serch;
Rwy’n ildio ’nghalon, mae’n ormod nawr
Rwy’n suddo’n ddyfnach i mewn i’th gariad.

Wedi’n dewis a’n caru’n llwyr
Yn feibion a merched, am byth yn dy gariad di.

Rwyf yn dod, dod nawr i’r lle dylwn fod
Adref i’th gwmni, i mewn i’th gôl
Dad atat Ti rwy’n dod.
Yn tywallt fy moliant a’m serch;
Rwy’n ildio ‘nghalon, mae’n ormod nawr
Rwy’n suddo’n ddyfnach i mewn i’th gariad.

Cyfieithiad awdurdodedig: Teitl Saesneg – Closer: Chris Sayburn, Jonathan James
© 2016 Thankyou Music & Integrity Worship Music & Life Worship. Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E Jones

PowerPoint youtube Prynu’r gerddoriaeth