logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwyf ar y cefnfor mawr

Rwyf ar y cefnfor mawr
Yn rhwyfo am y lan;
Mae’r nos yn enbyd, ond daw gwawr,
A hafan yn y man.

Ni chollir monof ddim
A’r Iesu wrth y llyw;
Ei ofal mawr a’i ryfedd rym
A’m ceidw innau’n fyw.

Tangnefedd heb un don,
Fy Ngheidwad, dyro’n awr;
Cerydda’r terfysg dan fy mron
A bydd tawelwch mawr.

John Daniel Davies, Blaenau Ffestiniog (1874 – 1948)

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 12)

PowerPoint