Pennill 1
Yn ofer ceisiais fil o ffyrdd
I leddfu f’ofn, rhoi gobaith im
Am f’angen mae dy Air yn glir
Am byth does neb ond Iesu
Pennill 2
O farw’n fyw, yn eiriol nawr
Yn d’Air a’th waith mae’th gariad Di
Gall calon wan gael ei boddhau
Am byth yn neb ond Iesu
Cytgan
Rwyf am dy ‘nabod, Iesu, fy Iôr
Brenin y Nefoedd a’m henaid i
Rhoddaf fy ngorau a’m trysor i gyd
Iesu, i’th ‘nabod di a’th ‘nabod fwy
Pennill 3
Er derbyn gwawd am d’enw Di
Nid oes cywilydd na dim ofn
Yn sefyll gyda mi drwy f’oes
Am byth mae f’unig Iesu
Cytgan
Pont (X2)
Fel ton ar ôl ton ar y cefnfor
Fel rhif tywod mân ar y lan
Mae’th harddwch a’th ‘sblander diddiwedd
O Iesu, rhaid dy ’nabod fwy
Cytgan (X2)
Rwyf am dy ’nabod / I want to know you, James Proctor | Jonny Robinson | Michael Farren | Rich Thompson, cyf. Arwel E Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
CCLI # 7169889
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint