logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhyfeddu ‘rwyf, O Dduw

Rhyfeddu ‘rwyf, O Dduw,
dy ddyfod yn y cnawd,
rhyfeddod heb ddim diwedd yw
fod Iesu imi’n Frawd.

Dwfn yw dirgelwch cudd
yr iachawdwriaeth fawr,
a’r cariad na fyn golli’r un
o euog blant y llawr.

Ni welodd llygad sant,
ni ddaeth i galon dyn
yr anchwiliadwy olud pell
yn arfaeth Duw ei hun.

Yn wylaidd wrth y groes
myfyriaf fyth ar hyn
yng ngolau y datguddiad mawr
ar ben Calfaria fryn.

DYFNALLT, 1873-1956

(Caneuon Ffydd 283)

PowerPoint