logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhyfeddol ras! O’r fendith dlos

Rhyfeddol ras! O’r fendith dlos
Achubodd walch fel fi;
Ar goll, fe’m caed, ac ar fy nos
Fe dorrodd gwawr yn lli.

Gras ‘ddysgodd ofn i’m calon goll,
Gras ‘chwalodd f’ofnau lu;
O awr y credu cyntaf oll,
Gras yw fy nhrysor cu.

Er gwaethaf llaid a maglau’r byd,
Clod byth i ras, ’rwy’n fyw!
A’r gras a’m diogelodd cyd
A’m dwg i nef fy Nuw.

Addawodd f’Arglwydd im bob da,
A’i air yw ’ngobaith hael;
Yn rhan a tharian y parha
Tra pery f’einioes wael.

Pan dderfydd ynni calon gnawd,
A’m bywyd yma ar ben,
Tragwyddol hedd a fydd i’m rhawd,
Gorfoledd hwnt i’r llen.

A ninnau yno, oesau’r rhod,
Fel disglair haul yn byw,
Ni dderfydd byth ddyrchafu clod
A mawl i’n Harglwydd Dduw.

John Newton, 1725-1807  (Amazing Grace), cyf. Dafydd Owen

(Grym Mawl 1: 9)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015