logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhyfeddol a rhyfeddol

Rhyfeddol a rhyfeddol
erioed yw cariad Duw:
ei hyd, ei led, ei ddyfnder,
rhyw fôr diwaelod yw;
a’i uchder annherfynol
sydd uwch y nefoedd lân,
Hosanna, Haleliwia!
fy enaid, weithian cân.

Rhyfeddol a rhyfeddol:
fe wawriodd bore ddydd,
daeth carcharorion allan
o’u holl gadwyni’n rhydd:
fe gododd heulwen olau,
a’i hyfryd lewyrch glân,
Hosanna, Haleliwia!
fy enaid, weithian cân.

DAFYDD WILLIAM, 1721?-94

(Caneuon Ffydd 190)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015