logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,
gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth
a Rheolwr popeth sydd
yn y preseb mewn cadachau
a heb le i roi’i ben i lawr,
eto disglair lu’r gogoniant
yn ei addoli’n Arglwydd mawr.

Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
a sŵn yr utgorn ucha’i radd,
caf fynd i wledda dros y terfyn
yng Nghrist y Gair, heb gael fy lladd:
mae yno’n trigo bob cyflawnder,
llond gwagle colledigaeth dyn;
ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
gwnaeth gymod drwy’i offrymu’i hun.

Efe yw’r Iawn fu rhwng y lladron,
efe ddioddefodd angau loes,
nerthodd freichiau’i ddienyddwyr
i’w hoelio yno ar y groes;
wrth dalu dyled pechaduriaid
ac anrhydeddu deddf ei Dad,
cyfiawnder, mae’n disgleirio’n danbaid
wrth faddau’n nhrefn y cymod rhad.

O f’enaid, gwêl y fan gorweddodd
pen brenhinoedd, awdur hedd;
y greadigaeth ynddo’n symud,
yntau’n farw yn y bedd;
cân a bywyd colledigion,
rhyfeddod mwya’ angylion nef
gweld Duw mewn cnawd a’i gydaddoli
mae’r côr dan weiddi, “Iddo ef.”

Diolch byth, a chanmil diolch,
diolch tra bo ynof chwyth,
am fod gwrthrych i’w addoli
a thestun cân i bara byth;
yn fy natur wedi’i demtio
fel y gwaela’ o ddynol-ryw,
yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
yn anfeidrol, fywiol Dduw.

Yn lle cario corff o lygredd,
cyd-dreiddio â’r côr yn danllyd fry
i ddiderfyn ryfeddodau
iachawdwriaeth Calfarî;
byw i weld yr anweledig
fu farw ac sy nawr yn fyw;
tragwyddol anwahanol undeb
a chymundeb â fy Nuw.

Yno caf ddyrchafu’r enw
a osododd Duw yn Iawn,
heb ddychymyg, llen na gorchudd,
a’m henaid ar ei ddelw’n llawn;
yng nghymdeithas y dirgelwch
datguddiedig yn ei glwy’,
cusanu’r Mab i dragwyddoldeb
heb im gefnu arno mwy.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 446)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015