logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhwng cymylau duon tywyll

Rhwng cymylau duon tywyll
Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
Mae fy ffydd yn llefain allan –
Dacw o’r diwedd dŷ fy Nhad:
Digon, digon,
Mi anghofia ‘ngwae a’m poen.

Nid oes yno gofio beiau,
Dim ond llawn faddeuant rad;
Poenau’r Groes, a grym y cariad,
A rhinweddau maith y gwaed:
Darfu tristwch;
Daeth llawenydd yn ei le.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 518)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 29, 2015