logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhof fy mywyd ger dy fron

Rhof fy mywyd ger dy fron
Gan geisio y gwir,
A thaenellu olew serch
Fel fy moliant i ti.
Gan aberthu, rhaid im roi
Fy nghyfan o’th flaen;
Iôr, derbynia aberth mawl
Un â’i galon ar dân.

Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof
I ffrind da heb ei ail,
ac i frenin mor hael?
Iesu, beth sydd i’w ddweud?
Rywsut, nid oes
Yna gân sy’n gwneud iawn gyda’r Iawn ar y groes.
Gwn na all yr un gair; ni all yr un gân
Sôn am faint fy nyled i’r Un, â’m calon ar dân.

Iesu, pa fath o rodd…

Pa fath o rodd? Pa beth a rof?
Pa fath o gân i’w haberthu O! Iôr?
Pa fath rodd…

Cyfieithiad Awdurdodedig: Tudur Hallam, (I will offer up my life): Matt Redman
© 1994 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 66)

PowerPoint youtube