logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhoddwn ddiolch i ti

Rhoddwn ddiolch i ti,
O Dduw, ymysg y bobloedd,
Canu wnawn glodydd i ti
Ymysg cenhedloedd.
Dy drugaredd di sydd fawr,
Sydd fawr hyd y nefoedd,
A’th ffyddlondeb di,
A’th ffyddlondeb di hyd y nen.

Fe’th ddyrchefir, O Dduw,
Goruwch y nefoedd,
A’th ogoniant a welir dros y byd.
Fe’th ddyrchefir, O Dduw,
Goruwch y nefoedd,
A’th ogoniant a welir dros y byd.

(Llinell olaf y tro olaf)
A’th ogoniant, a’th ogoniant,
A’th ogoniant a welir dros y byd.

(I will give thanks to Thee), Brent Chambers. Cyfieithiad: anad.
Hawlfraint © 1977 Sovereign Music UK

(Grym Mawl 1: 78)

PowerPoint