logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rhoddaist dy gariad i lawr

Pennill 1:
Rhoddaist dy gariad i lawr
A chario baich ’mhechod i
Golchi fy meiau fel lli’
Lawr i fôr dy gariad di-drai

Cytgan:
Â’m breichiau fry
Arglwydd derbyn fi
Nawr, rwyf yng nghadw ’Nghrist
Â’th dragwyddol gariad
Â’m cyfan oll
Safaf yn dy ras
Dy gariad sy’n well na’r un
Cariad Duw, ’Ngwaredwr

Pennill 2:
Tosturi Duw yn rhuo fel gwynt
Cariad gwyllt yn chwalu fy mai

Pont:
I’r hwn a’m hachubodd i
I’r hwn a’m croesawodd i
I’r hwn sy’n Waredwr pawb
Mae ’nghân dragwyddol

Cerddoriaeth a geiriau: Aryel Murphy, Scott Ligertwood& Brooke Ligertwood
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E. Jones
© 2015 Hillsong Music Publishing
CCLI # 7157409

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020