logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho olwg ar Dy gariad

Rho olwg ar dy gariad
Rhyfeddol ataf fi;
Y cariad ddaeth a Thi i’r byd
I farw ar Galfari.

O cymorth rho i ddeall,
A gwerthfawrogi’n iawn
Y pris a delaist, Sanctaidd Un,
Er dwyn fy meiau’n llawn.

Ai’r hoelion, O Waredwr,
A’th glymodd Di i’r groes?
Na, na, dy gariad ataf fi
A wnaeth it ddiodde’r loes.

Rhyfeddod uwch rhyfeddod,
Mai trwy dy angau Di
Y gellir maddau fawr a mân
O feiau ‘nghalon ddu.

O, todda ‘nghalon, Iesu;
Ie, plŷg a thor fi lawr:
Concweria fi, a mynn dy le
Fel Crist a Brenin mawr.

K A M Kelly: Give me a sight, Cyfieithwyd: Dafydd M Job

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 9, 2015