logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho inni weledigaeth

Rho inni weledigaeth
ar dy frenhiniaeth di
sy’n estyn o’r mynyddoedd
hyd eithaf tonnau’r lli;
ni fynnwn ni ymostwng,
yn rhwysg ein gwamal oes
ond i’th awdurdod sanctaidd
a chyfraith Crist a’i groes.

Gwisg wisgoedd dy ogoniant
sy’n harddach fil na’r wawr,
a thyred i feddiannu
dy etifeddiaeth fawr;
a thywys, o’th dosturi,
dylwythau’r ddaear las
o grinder llwm anobaith
i deyrnas bur dy ras.

Dy eiddo ydyw’r orsedd
o oes i oes o hyd;
ni syfl ei seiliau cedyrn
yn nherfysg gwyllt y byd:
pan syrth gorseddau’r ddaear
i’r llwch yn chwalfa sarn,
bydd gorsedd dy gyfamod
yn fywyd ac yn farn.

AMANWY (David Rees Griffiths), 1882-1953 © Rhys a Rhodri Davies, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 252)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016