logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho imi, nefol Dad

Rho imi, nefol Dad,
yr Ysbryd Glân yn awr
wrth geisio cofio’r gwerth a gaed
yng ngwaed ein Iesu mawr.

Gad imi weld y wawr
a dorrai ar ei loes
a’r heddwch a gofleidiai’r byd
yn angau drud y groes.

Ei gwpan ef, mor llawn
a chwerw ar ei fin,
a droes, yn rhin ei gariad mawr,
i mi yn awr yn win.

J. TYWI JONES, 1870-1948

(Caneuon Ffydd 629; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 05)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015