logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho imi galon o gariad

Rho imi galon o gariad,
Gofal dros rai sydd ar goll.
Rho imi faich dros y rhai
sydd yn isel a thrist.
Arglwydd, rwy’n awchus a pharod
I helpu’r tlawd ym mhob man.
Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd
o gymorth i’r gwan.

Ac eneinia dy weision,
eneinia dy weision,
I ddweud am Grist, pregethu Crist.
Ac eneinia dy weision,
eneinia dy weision,
I ddweud am Grist, pregethu Crist.

Canaf am dy iachawdwriaeth,
Cyhoeddi’n eofn dy air.
Bloeddiaf, ‘Ef yw fy Ngwaredwr,
Dewch ato yn llu.’
Fe dd’wedaf wrthynt am Iesu;
A thystiaf iddynt am ras.
Heb ddim cywilydd o’r efengyl,
na’r hyn a wna.

Cerddwn ymlaen gyda’n gilydd,
A’n llais yn unfryd a chryf.
Pob oed mewn undod a chytgord,
Dyrchafwn dy glod.
Allan i’r strydoedd a’r trefi,
Yn wŷr, yn wragedd, yn blant.
Ti yw yr hwn sy’n ein nerthu
i wneud dy waith.

Do eneiniaist dy weision,
eneiniaist dy weision,
I ddweud am Grist, pregethu Crist.
Do eneiniaist dy weision,
eneiniaist dy weision,
I ddweud am Grist, pregethu Crist.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Alun Tudur
Give me a heart of compassion (Enable your Servants), Jim Bailey
Hawlfraint © 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 30)

PowerPoint