logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho i ni lygad Crist i weld yn iawn

Rho i ni lygad Crist i weld yn iawn
y ffiniau ffals a ddrylliwyd un prynhawn,
er mwyn i ni gael carthu’n rhagfarn cas
a gweld pob lliw yn hardd yn haul dy ras:
O cuddia ni er mwyn dy ddangos di,
y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni.

Rho i ni ddwylo Crist i wneud ein gwaith
rhag mynd ffordd arall heibio ar ein taith,
yn llawen rhown i’r rhai mewn newyn draw
a chofiwn am y weddw sydd gerllaw:
O cuddia ni er mwyn dy ddangos di,
y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni.

Rho galon Crist i ni wrth wely’r claf
i weini yn ei aeaf wenau haf,
a phrofi o dan faich sy’n drwm i ni
gymdeithas dioddefiadau Calfarî:
O cuddia ni er mwyn dy ddangos di,
y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni.

Rho i ni ‘sgidiau Crist i fynd mewn hedd
yng ngrym ei atgyfodiad ef o’r bedd,
i ddwyn y rhai sy’n disgwyl am y dydd
a ffoaduriaid ffawd i deulu’r ffydd:
O cuddia ni er mwyn dy ddangos di,
y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni.

NOEL GIBBARD. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 851)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016