logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho dy ŵyneb gyda’th gennad

Rho dy ŵyneb gyda’th gennad,
Arglwydd gweision yr holl fyd;
boed ei feddwl ar dy gariad,
boed dy air yn llenwi’i fryd;
rho d’arweiniad
iddo ef a’r praidd ynghyd.

Heb dy allu bydd yn egwan,
heb d’oleuni, crwydro bydd;
iddo rho dy gyngor cyfan,
gad i’r seliau ddod yn rhydd;
Iesu’i hunan
fyddo’i destun nos a dydd.

Cadw’i olwg ar Galfaria
a’i deimladau ‘ngwres y groes;
gad i’w feddwl dawel wledda
ar haeddiannau marwol loes:
dweud am noddfa
fyddo pleser penna’i oes.

PENAR, 1860-1918

(Caneuon Ffydd 644)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015