logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

‘R un un o hyd

‘R un un o hyd, ‘r un un o hyd,
na, nid marw ydyw Iesu,
mae’n fyw o hyd,
‘r un un o hyd, ‘r un un o hyd,
na, nid marw ydyw Iesu, mae’n fyw o hyd.

Ef yw’r Gair fu o’r dechreuad
trwyddo crewyd popeth sydd,
ef sy’n cynnal y bydysawd
trwy ei gariad nos a dydd.

Daeth i’n daear lawr o’r nefoedd,
‘roedd yn ddyn ac ‘roedd yn Dduw,
daeth i achub pechaduriaid,
daeth er mwyn i ni gael byw.

Rhodiodd lannau Galilea
gan iacháu y dall a’r mud,
maddau pechod, codi’r meirw,
hwn yw’r newydd da i’n byd.

Aeth i’r groes i farw drosom,
agorodd ffordd i ni at Dduw,
atgyfododd a gorchfygodd,
ac yn fythol mae e’n fyw.

Mewn gogoniant fe ddychwela,
daw, fe ddaw ar gymylau’r nef,
ddoe a heddiw yn dragywydd,
Arglwydd mawr y byd yw ef.

RHIANNON LLOYD Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 419)

PowerPoint