logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

R hwn sy’n gyrru’r mellt i hedeg

‘R hwn sy’n gyrru’r mellt i hedeg
ac yn rhodio brig y don,
anfon saethau argoeddiadau
i galonnau’r oedfa hon:
agor ddorau hen garcharau,
achub bentewynion tân;
cod yr eiddil gwan i fyny,
dysg i’r mudan seinio cân.

Llama, Arglwydd, dros y bryniau,
doed y dyddiau pur i ben
pan fo Seion drwy fawr lwyddiant
yn ben moliant is y nen:
enw’r Iesu gaffo’i barchu
a’i ddyrchafu drwy bob gwlad;
miloedd ddelo i gofleidio
iachawdwriaeth yn y gwaed.

1 DAVID SAUNDERS, 1769-1840, 2 DAVID DAVIES, 1763-1816

(Caneuon Ffydd 28)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015