logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy Wyt Ti i Mi

Pennill 1
Mae rhai yn sôn dy fod ymhell, dim ond geiriau mewn rhyw lyfr
Yn ddim byd mwy na chwedlau basiwyd lawr o oes i oes
Ond fe holltaist Ti y dyfroedd
Pan allai neb fy nhynnu i o’r dwfn
Dyna pwy wyt Ti

Pennill 2
Mae rhai yn dweud dy fod yn byw mewn eglwysi wnaed â llaw
Ond rwyt Ti yn fy nghalon i, rwy’n gwybod hynny’n iawn
Fe’th welais yn y machlud
Ac yn llygaid rhyw ddieithryn ar y stryd
Dyna pwy wyt Ti

Cytgan
Ti’n rhyfeddol, ffyddlon, drws cariad Duw
Pan rwy’n wag, Ti’n fy llenwi â newyn am fwy
O’th drugaredd, daioni
Anadl f’einioes wyt Ti
Dyna pwy wyt i mi
Pwy wyt Ti i mi

Pennill 3
Weithiau rwyf yn amau, fel mae pawb yn gwneud rwy’n siwr
Ac rwy’n gofyn pan rwy’n baglu a wyf yn deilwng o dy serch
Ond fe wn y dof yn gryfach
Pan fyddaf ar fy ngliniau o’th flaen
Ti’n cwrdd â’m hangen i

Cytgan

Pont 1
Yn dragwyddol, Sanctaidd
Ti yw’r Oen sydd yn deilwng
Fy maddeuant (fy maddeuant) fy Iachäwr (Iachäwr)
Y Meseia, fy Ngwaredwr

Cytgan 2
Ti’n rhyfeddol, ffyddlon, drws cariad Duw
Pan rwy’n wag, Ti’n fy llenwi â newyn am fwy
O’th drugaredd, daioni
Anadl f’einioes wyt Ti
Dyna pwy wyt

Pont 2
Rwyt yn uchel, Arglwydd, (yn) fwy na phob dim
Yn dy gwmni, Iesu, safaf yn syn
O’th drugaredd, daioni
Anadl f’einioes wyt Ti

Diweddglo
Dyna pwy wyt Ti i mi
Pwy wyt Ti i mi
Pwy wyt Ti i mi
Pwy wyt Ti i mi
Dyna pwy wyt Ti i mi

Pwy Wyt Ti i Mi
Who You are to Me (Dave Haywood, Charles Kelley, Hillary Scott, Chris Tomlin)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© Capitol CMG Paragon (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
S. D. G. Publishing (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Y gyfran sy’n weddill heb fod yn gysylltiedig

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021