logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy sy’n dod i Salem dref?

Pwy sy’n dod i Salem dref?
Iesu’n Llywydd:
taenwn ar ei lwybrau ef
gangau’r palmwydd;
rhoddwn iddo barch a chlod
mewn Hosanna;
atom ni mae heddiw’n dod
Haleliwia!

Pwy sy’n dod drwy byrth y bedd
yn orchfygwr?
Iesu Grist, Tywysog hedd,
ein Gwaredwr:
mae ei fryd ar wella’r byd
o’i ddoluriau;
rhoddwn iddo oll ynghyd
ein calonnau.

Er i holl delynau’r nef
ei glodfori,
hyfryd iddo ef yw llef
plant yn moli:
dewch â’r palmwydd, dewch â’r gân
byth i’r Iesu,
unwn gyda’r dyrfa lân
i’w foliannu.

ELFED, 1830-1953

(Caneuon Ffydd 360)

PowerPoint