logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy sydd yn marw drosof fi

Pwy sydd yn marw drosof fi
Ar fryn y camwedd mawr,
A grym maddeuant yn ei air
Yn ing yr olaf awr?

Cytgan:

Yr Iesu yw, Eneiniog Duw,
Yr anfonedig glân,
Caf ynddo Ef orfoledd byw
A rhin y dwyfol dân.

Pwy sydd yn eiriol drosof fi,
Bechadur gwael ei wedd,
Gan ennill imi bardwn rhad
A bywyd llawn o hedd?

Pwy sydd yn erfyn arnaf fi
I’w ganlyn dan y groes,
Heb ofni gwg na gofyn gwên,
Nes llwyr sancteiddio f’oes?

Pwy sydd yn addo fyth i mi
Lawenydd dwys y saint,
A mwynder ei dangnefedd Ef
O hyd yn ryfedd fraint?

W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016