logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy ddyry im falm o Gilead

Pwy ddyry im falm o Gilead,
Maddeuant pur a hedd,
Nes gwneud i’m hysbryd edrych
Yn eon ar y bedd,
A dianc ar wasgfaeon
Euogrwydd creulon cry’?
‘Does neb ond Ef a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari.

Yr hoelion geirwon caled,
Gynt a’i trywanodd E’,
Sy’n awr yn dal y nefoedd
Gwmpasog yn ei lle:
Mae gobaith meibion dynion
Yn llifo i maes ynghyd
Oddi wrth yr awr trywanwyd
Creawdwr mawr y byd.

Edward Young efel. William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 330)

PowerPoint