logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy all ein gwahanu

Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw?
Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw?
Pwy all ein gwahanu oddi wrth gariad Duw?
Sydd i ni ‘Nghrist Iesu ein Iôr.

Gorthrymder neu ing neu gas erledigaeth,
Newyn neu noethni’r corff,
Peryg neu unrhyw gleddyf ddaw i’n herbyn?
Gorthrymder…

Na, drwy’r cwbl oll
Ry’m ni’n ennill buddugoliaeth
Lwyr drwy’r hwn a’n carodd –
Crist Iesu ein Iôr.
Na, drwy’r cwbl…

Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr;
Iesu, ein Iôr;Iesu, ein Iôr;Iesu, ein Iôr;

Pwy all ein gwahanu…

Ni all angau na bywyd, angel na chythraul,
Dim o’r presennol nac o’r dyfodol,
Uchder na dyfnder –
Dim drwy’r holl greadigaeth
Ni all angau na…

Lwyddo fyth i’n dal na’n gwahanu
Oddiwrth gariad Duw
Sydd i ni ‘Nghrist Iesu ein Iôr.
Lwyddo fyth…

Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr;
Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr; Iesu, ein Iôr;

(Grym Mawl 2: 156)

David a Liz Morris: Who can seperate us, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1996 Tevita Music

PowerPoint