logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pwy all blymio dyfnder gofid

Pwy all blymio dyfnder gofid
Duw ein Tad o weld ei fyd?
Gweld y plant sy’n byw heb gariad,
gweld sarhau ei gread drud:
a phob fflam ddiffoddwyd gennym
yn dyfnhau y nos o hyd;
ein Tad, wrth Gymru,
ein Tad, wrth Gymru,
O trugarha!

Gwnaethom frad â’r gwir a roddaist,
buom driw i dduwiau gau,
gwnaethom aberth o’n plant bychain
ar eu hallor, heb dristáu:
O llewyrched dy oleuni,
doed dy arswyd i’n hiacháu;
ein Tad, wrth Gymru,
ein Tad, wrth Gymru,
O trugarha!

Pwy all sefyll rhag dy ddicter?
Pwy all ddal d’edrychiad llym?
Ti yw Tad y plant amddifad,
ti yw nerth y rhai di-rym:
Duw cyfiawnder yw dy enw,
rhag dy farn ni thycia dim;
ein Tad, wrth Gymru,
ein Tad, wrth Gymru,
O trugarha!

Pwy wnaiff herio’r trais a’r gormes,
gyda’r gweiniaid yn eu cur?
Pan chwyth corwynt hunanoldeb
pwy rydd gysgod? Pwy gwyd fur?
Tyrd i’n hysgwyd o’n cysgadrwydd,
tyrd i doddi’n c’lonnau dur;
ac wrthym ninnau,
ac wrthym ninnau,
O trugarha!

Pwy all blymio dyfnder cariad
Duw ein Tad wrth weld ei fyd?
Dyfnder cariad Gŵr gofidus
roes ei waed yn daliad drud:
ynddo mae iachâd cenhedloedd
a glanhad ein gwaith i gyd;
oherwydd Iesu,
oherwydd Iesu,
O trugarha!

GRAHAM KENDRICK (Who can sound the depths of sorrow) cyf. SIÔN ALED
Hawlfraint © 1988 Make Way Music,
P.O. Box 263, Croydon CR9 5AP
Rhyngwladol. Cedwir pob hawl. Cyfìeithiad awdurdodedig © 1991 Make Way Music

(Caneuon Ffydd 863, Grym Mawl 1: 181)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015