Pob seraff, pob sant,
hynafgwyr a phlant,
gogoniant a ddodant i Dduw
fel tyrfa gytûn
yn beraidd bob un
am Geidwad o forwyn yn fyw.
Efe yw fy hedd,
fy aberth a’m gwledd,
a’m sail am drugaredd i gyd;
fy nghysgod a’m cân
mewn dŵr ac mewn tân,
gwnaed uffern ei hamcan o hyd.
Yn babell y bydd
rhag poethder y dydd
a chedyrn lifogydd y fall;
mewn cysgod mor dda
holl uffern a’i phla,
er chwennych fy nifa, ni all.
EDWARD JONES, 1761-1836
(Caneuon Ffydd 362)
PowerPoint