logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pob peth, ymhell ac agos

Pob peth, ymhell ac agos,
sy’n dangos Duw i’r byd,
ei enw sydd yn aros
ar waith ei law i gyd;
efe a wnaeth y seren
yn ddisglair yn y nen,
efe a wnaeth y ddeilen
yn wyrddlas ar y pren.

Ar ei drugareddau
yr ydym oll yn byw;
gan hynny dewch a llawenhewch,
cans da yw Duw.

Mae’r nefoedd a’i chymylau
o dan ei gadarn law,
mae’n rhoddi’r heulwen olau,
mae’n rhoddi gwlith a glaw;
mae gwyntoedd oer y gaeaf
yn ufudd iddo ef,
ac ni ddaw un cynhaeaf
ond drwy ragluniaeth nef.

Mae’n newid ei fendithion
i gwrdd ag angen dyn;
mae’n ddoeth ymhob dibenion,
erioed ni fethodd un;
ein bara sydd bob bore
yn dod o’i ddwylo ef,
a chynnal ein heneidiau
wna byth â bara’r nef.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 130)

PowerPoint