logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pererin wyf mewn anial dir, sychedig am gysuron gwiw

Pererin wyf mewn anial dir,
Sychedig am gysuron gwiw;
Yn crwydro f’amser a llesgáu
O hiraeth gwir am dy fwynhau.

Haul y Cyfiawnder disglair cu,
Tywynna drwy bob cwmwl du;
O dan dy esgyll dwyfol mae
Balm o Gilead sy’n iacháu.

Mae gras yn rhyw anfeidrol stôr,
A doniau ynot fel y môr;
O! gad i druenusaf ddyn
Gael profi gronyn bach o’u rhin.

Ac os bydd iti faddau ‘mai,
Ac o’m harchollion fy iacháu,
Dy glod, dy ras, a’th enw gwiw
Fydd fy holl bleser tra fwyf byw.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 182)

PowerPoint