logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Peraidd ganodd sêr y bore

Peraidd ganodd sêr y bore
ar enedigaeth Brenin nef;
doethion a bugeiliaid hwythau
deithient i’w addoli ef
gwerthfawr drysor,
yn y preseb Iesu gaed.

Dyma y newyddion hyfryd
Draethwyd gan angylion Duw –
Fod y Ceidwad wedi ei eni,
I golledig ddynol ryw:
Ffyddlawn gyfaill!
Bechaduriaid, molwn Ef.

Dyma Geidwad i’r colledig,
Meddyg i’r gwywedig rai;
dyma un sy’n caru maddau
i bechaduriaid mawr eu bai;
diolch iddo
byth am gofio llwch y llawr.

Brenin tragwyddoldeb ydyw,
Llywodraethwr daer a ne’;
byth ni wêl tylwythau’r ddaear
Geidwad arall ond efe;
mae e’n ddigon,
y tragwyddol fywyd yw.

MORGAN RHYS, 1716-79 (Mae’r ail bennill yn ychwanegol at yr hyn sy’n ymddangos yn Caneuon Ffydd)

(Caneuon Ffydd 439)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015