logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd

Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd,
Nid ofnaf fi.
Pan yn cerdded drwy’r fflamau,
Fyth ni’m llosgir i;
Rwyt wedi fy achub.

Fe delaist y pris;
Gelwaist ar fy enw i.
Rwyf yn eiddo llwyr i ti
A gwn dy fod ti yn fy ngharu –
Mor ddiogel yn dy gariad.

Pan mae’r llif yn fy llethu,
Estyn dy law.
Pan wyf fi bron a boddi,
Symudi’r braw
A’m rhoi ar graig.
Rwyt wedi fy achub.

Fe delaist…
Rwy’n ddiogel yn dy gariad.

(Grym Mawl 2: 152)

Andy Piercy a Dave Clifton: When I walk through the waters (Precious in Your eyes)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1993 I.Q.Music

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015