logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan oedd Iesu dan yr hoelion

Pan oedd Iesu dan yr hoelion
yn nyfnderoedd chwerw loes
torrwyd beddrod i obeithion
ei rai annwyl wrth y groes;
cododd Iesu!
Nos eu trallod aeth yn ddydd.

Gyda sanctaidd wawr y bore
teithiai’r gwragedd at y bedd,
clywid ing yn sŵn eu camre,
gwelid tristwch yn eu gwedd;
cododd Iesu!
Ocheneidiau droes yn gân.

Wyla Seion mewn anobaith
a’r gelynion yn cryfhau,
gwelir myrdd yn cilio ymaith
at allorau duwiau gau;
cododd Iesu!
I wirionedd gorsedd fydd.

E. CEFNI JONES, 1871-1972

(Caneuon Ffydd 550)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015