logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan fwy’n cerdded drwy’r cysgodion

Pan fwy’n cerdded drwy’r cysgodion,
pwyso ar dy air a wnaf,
ac er gwaethaf fy amheuon
buddugoliaeth gyflawn gaf.

Dim ond imi dawel aros
golau geir ar bethau cudd;
melys fydd trallodion hirnos
pan geir arnynt olau’r dydd.

Ac os egwan yw fy llygad,
digon i mi gofio hyn:
hollalluog yw dy gariad,
fe wna bopeth fel y myn.

Meddwl purach, llawnach golau,
bywyd wedi mynd yn rhydd;
pan ddêl hynny mi gaf finnau
wybod gwerth y pethau cudd.

W. T. MATSON, 1833-99, efel. ELFED, 1860-1953

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 30, 2015