logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr

Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr
heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr,
am law fy Ngheidwad y diolchaf i
â’i gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau
a blinder byd yn peri im lesgáu,
gwn am y llaw a all fy nghynnal i
â’i  gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan brofais archoll pechod ar fy nhaith
a minnau’n ysig ŵr dan gur a chraith,
ei dyner law a’m hymgeleddodd i
â’i gafael ynof er nas gwelaf hi.

A phan ddaw braw yr alwad fawr i’m rhan
a’r cryfaf rai o’m hamgylch oll yn wan,
nid ofnaf ddim, ei law a’m tywys i
â’i gafael ynof er nas gwelaf hi.

JOHN ROBERTS, 1910-84  © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 758)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016