logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau

Pan fo’n blynyddoedd ni’n byrhau,
pan fo’r cysgodion draw’n dyfnhau,
tydi, yr unig un a ŵyr,
rho olau’r haul ym mrig yr hwyr.

Er gwaeled fu a wnaethom ni
ar hyd ein hoes a’i helynt hi,
er crwydro ffôl ar lwybrau gŵyr,
rho di drugaredd gyda’r hwyr.

Na chofia’n mawr wendidau mwy,
a maint eu holl ffolineb hwy;
tydi, yr unig un a’i gŵyr,
rho di drugaredd gyda’r hwyr.

Mae sŵn y byd yn cilio draw,
a dadwrdd ynfyd dyn a daw;
a fydd ein rhan, tydi a’i gŵyr:
rho di oleuni yn yr hwyr.

T. GWYNN JONES, 1871-1949 Hawlfraint © ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones. Cedwir pob hawl

(Caneuon Ffydd 173)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016