logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan edrychaf i’r nefoedd

Pan edrychaf i’r nefoedd
Ar waith dy ddwylo Di,
Gwelaf y lleuad a’r sêr –
Gwaith dy fysedd ydynt oll;
Ond fe’n ceraist ni gyda gras mor ddwfn;
O, Iôr, mor fawr wyt ti!

Plant sy’n canu dy glodydd,
A’r gelyn sydd yn ffoi;
Iôr mae dy enw mor nerthol,
Rhyfeddol yw yn awr;
Ond fe’n ceraist ni gyda gras mor ddwfn;
O, Iôr, mor fawr wyt ti!

Ac o’r ddae’r i’r nef
A hyd eigion y môr,
Arglwydd Iôr fe’n ceraist ni.
Ac o’r ddae’r…

Pan edrychaf…

(Grym Mawl 2: 151)

Trish Morgan a Paula Simpson: When I look to the heavens (Psalm 8),
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M. Job
Hawlfraint © 1994 Daybreak Music Ltd.

PowerPoint