logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu

Pan edrychaf gyda’r sanctaidd lu,
A phan syllaf ar dy harddwch di.
Pan mae popeth o’m cylch
Megis cysgod yn d’oleuni pur.
Pan ymgollaf yn dy gariad a’th ras,
A’m hewyllys mwy ynghlwm wrthyt ti,
Pan mae popeth o’m cylch
Megis cysgod yn d’oleuni pur.

Addolaf di, Addolaf di,
Fy mywyd i yw cael d’addoli di.
Addolaf di, Addolaf di,
Holl bwrpas fy myw yw dy foli di.

Wayne a Cathy Perrin: When I look into your holiness, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1981 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UK

(Grym Mawl 1: 178)

PowerPoint