logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan ddryso llwybrau f’oes

Pan ddryso llwybrau f’oes,
a’m tynnu yma a thraw,
a goleuadau’r byd
yn diffodd ar bob llaw,
rho glywed sŵn dy lais
a gweld dy gadarn wedd
yn agor imi ffordd
o obaith ac o hedd.

Pan ruo storom ddu
euogrwydd dan fy mron,
a Satan yn ei raib
yn trawsfeddiannu hon,
O tyn y gorchudd fry
ar uchel fryn y groes,
fel delo im i lawr
dangnefedd drwy dy loes.

A phan ddisgynno llen
y machlud ar fy nydd,
a niwl y godre draw
yn dringo dros fy ffydd,
rho weld yr angel claer
yn treiglo maen y bedd,
a chymer fi’n dy law
drwy byrth tragwyddol hedd.

SIMON B. JONES, 1894-1964 Defnyddiwyd drwy ganiatâd Jon Meirion Jones

(Caneuon Ffydd: 783)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016