logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan ddaw pob tymor yn ei dro

Pan ddaw pob tymor yn ei dro
rhyfeddu wnawn at allu’r Iôr
yn creu amrywiaeth lliw a llun
ar faes a mynydd, tir a môr.

Diolchwn am y gwanwyn gwyrdd
yn deffro’r byd ‘r ôl trwmgwsg hir,
a chyffro’r wyrth yn dweud wrth bawb
fod atgyfodiad yn y tir.

Ac yna’r haf a’i ddyddiau mwyn,
yr wybren las, a’r haul uwchben,
a chlywir hyfryd chwerthin plant
yn atsain eto hyd y nen.

A phan ddaw’r hydref yn ei rwysg
a’i law yn euro dail y coed
cawn brofi cyfoeth cnwd y maes
eleni eto fel erioed.

Ac er bod hin y gaea’n oer
a mantell wen yn cuddio’r llawr,
clodforwn eto ryfedd wyrth
amrywiaeth byd y Crewr mawr.

REBECCA POWELL, 1935-93 © Elin ap Hywel
Caneuon Ffydd 81

PowerPoint PPt Sgrîn lydan